Lleoliad:
Committee Room 4 - Ty_Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 14 Gorffennaf 2020
Amser:
14.00 -
16.42
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6337
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
John Griffiths AS (Cadeirydd) Dawn Bowden AS Huw Irranca-Davies AS Mark Isherwood AS Delyth Jewell AS Caroline Jones AS |
Tystion: |
Rhys Gwilym-Taylor, Senior Policy and Public Affairs Officer, Crisis Jennie Bibbings, Shelter Cymru Clarissa Corbisiero-Peters, Cartrefi Cymunedol Cymru Katie Dalton, Cymorth Cymru Matt Dicks, CIH Cymru Andrea Lewis, Cyngor Abertawe Jim McKirdle, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Callum Davies, Welsh Policy & Public Affairs Officer, NRLA |
Staff y Pwyllgor: |
Naomi Stocks (Clerc) Catherine Hunt (Ail Glerc) Yan Thomas (Dirprwy Glerc) Jonathan Baxter (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd Aelodau’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau i’r cyfarfod.
1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, nododd y Cadeirydd ei fod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd.
1.3 Nododd y Cadeirydd, os bydd yn gadael y cyfarfod heb rybudd am unrhyw reswm, fod y Pwyllgor wedi cytuno y bydd Dawn Bowden AS yn dod yn Gadeirydd dros dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.
2 Ymchwiliad i effaith Covid-19: sesiwn dystiolaeth ar ddigartrefedd
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· Rhys Gwilym-Taylor, Uwch Swyddog Polisi a Materion Cyhoeddus, Crisis
· Jennie Bibbings, Rheolwr Ymgyrchoedd, Shelter Cymru
· Katie Dalton, Cyfarwyddwr, Cymorth Cymru
2.2 Yn ystod y cyfarfod, cytunodd Shelter Cymru i ddarparu data ar ymatebion awdurdodau lleol i ddigartrefedd yn ystod y pandemig.
3 Ymchwiliad i effaith Covid-19: sesiwn dystiolaeth ar dai
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· Clarissa Corbisiero, Cyfarwyddwr Polisi a Materion Allanol / Dirprwy Brif Weithredwr, Cartrefi Cymunedol Cymru
· Matt Dicks, Cyfarwyddwr, CIH Cymru
· Y Cynghorydd Andrea Lewis, Llefarydd ar Dai, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
· Jim McKirdle, Swyddog Polisi Tai, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
· Calum Davies, Swyddog Polisi a Materion Cyhoeddus Cymru, Cymdeithas Genedlaethol y Landlordiaid Preswyl
3.2 Yn ystod y cyfarfod:
· Cytunodd Cartrefi Cymunedol Cymru i ddarparu rhagor o wybodaeth am gael gwared yn raddol ar yr angen blaenoriaethol ar gyfer pobl ddigartref yn yr Alban.
· Cytunodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ddarparu rhagor o wybodaeth am y gwaith a wnaed gan Gyngor Abertawe ynghylch datblygu cartrefi newydd i gefnogi’r adferiad economaidd ehangach.
4 Papur i'w nodi
4.1 Gohebiaeth gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip ynghylch y sesiwn dystiolaeth ar 14 Mai - 30 Mehefin 2020
4.1a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip ynghylch y sesiwn dystiolaeth ar 14 Mai.
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac ar gyfer eitemau 1 a 2 o’r cyfarfod ar 16 Gorffennaf 2020
5.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
6 Ymchwiliad i effaith Covid-19: trafod y dystiolaeth
6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 2 a 3.
7 Ystyried gohebiaeth â'r Llywydd ynghylch Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru).
7.1 Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth â’r Llywydd ynghylch Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru).